GBV 80
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) Cyfnod 1
Ymateb gan: Barnardo’s Cymru, Cymorth i Ferched Cymru, NSPCC
Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol – Ymateb i ddiffyg adran ar
‘Gwella Addysg ac Ymwybyddiaeth mewn Lleoliadau Addysg’
Nodir mai un o brif nodau’r Bil hwn (fel y’i cyflwynwyd) yw gwella’r trefniadau ar gyfer atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Felly, syndod a phryder i ni oedd gweld bod cynigion y Papur Gwyn i sicrhau y bydd addysg ar ‘berthnasoedd iach’ yn cael ei chyflwyno ymhob ysgol a hybu dull ysgol gyfan o weithredu yn absennol o'r Bil. Roedd y Papur Gwyn yn cynnwys tystiolaeth glir o’r effaith amddiffynnol ac ataliol a allai ddigwydd drwy wneud y broses o gyflwyno elfen gynhwysfawr o’r cwricwlwm ABCh ar berthnasoedd diogel a thrais rhyngbersonol gan arbenigwyr yn statudol.
Gofynnwn i Lywodraeth Cymru egluro, yn ystod trafodaethau Cam 1, sut y bydd yn cyflawni ei hymrwymiad, a wnaethpwyd yn y Papur Gwyn Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i sicrhau y bydd plant a phobl ifanc oed ysgol yng Nghymru yn cael addysg 'perthnasoedd iach' gorfodol a chynhwysfawr.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i naill ai:
1. Gynnwys mesurau ar ‘Wella Addysg ac Ymwybyddiaeth’ mewn Lleoliadau Addysgol ar wyneb y Bil
Neu: 2. Rhoi ymrwymiad clir y bydd y ddarpariaeth hon yn cael ei chyflwyno drwy’r Cwricwlwm o ganlyniad i Adolygiad Llywodraeth Cymru sydd ar waith ar hyn o bryd, ac esbonio'r 'mesurau ategol i sicrhau bod ysgolion yn gwneud trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn rhan annatod o'u darpariaeth hefyd’ (Memorandwm Esboniadol – 59) Pa opsiwn bynnag a ddewisir ar gyfer ei gyflwyno, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau dull ysgol gyfan o weithredu yn unol â’r cynigion yn y Papur Gwyn a dyletswydd Gweinidog Cymru i roi sylw dyladwy i CCUHP (Erthyglau 34, 28, 19 a 13). |
Pam y credwn fod hyn mor bwysig
Credwn y bydd sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn profi addysg ar sail hawliau ar berthnasoedd iach, cydraddoldeb rhywiol a hawliau dynol yn helpu i gyflwyno’r canlyniadau a geisir gan y ddeddfwriaeth hon y mae ei ffocws ar atal. Dylai ffurfio rhan o gynnwys ABCh gorfodol priodol-i-oedran ar gadw'n ddiogel, yn enwedig ar-lein, sut i adnabod cam-drin, camfanteisio ac esgeulustod, a lle i fynd i gael help. Dylai’r cwricwlwm fynd y tu hwnt i faterion cydraddoldeb rhywiol a pherthnasoedd iach i gynnwys, er enghraifft, camfanteisio rhywiol ar blant, masnachu pobl, ymddygiad sy'n rhywiol niweidiol, anffurfio organau cenhedlu menywod a phriodasau dan orfod. Er mwyn cyflawni hyn yn effeithiol, credwn hefyd y dylai’r gwaith o gynllunio a chyflwyno rhaglen addysg o’r fath fod yn seiliedig ar ymchwil flaenorol a phrofiad ymarfer. Mae’r dystiolaeth hon yn dangos y dylai nifer o fesurau nad ydynt yn rhan o'r cwricwlwm ABCh ond sy’n cefnogi’r cwricwlwm hwnnw, gael eu cynnwys ar wyneb y Bil. Mae’r rhain yn ymwneud â dulliau ysgol gyfan o weithredu yng nghyswllt cynlluniau trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol sy’n cyfrannu at les disgyblion.[1][2] Byddem yn falch o gael rhagor o esboniad am y penderfyniad i beidio â chynnwys y mesurau hyn ar wyneb y Bil. Byddai ein hymatebion i’r Adolygiad Annibynnol o Asesu a’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru, er eu bod yn cynnwys yr uchod, wedi bod yn llawer cryfach ar y materion hyn petai wedi bod yn glir y byddai'r elfen hon yn cael ei gadael allan o'r Bil.
Rydym yn croesawu’r datganiadau ymrwymiad cyson gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion y Papur Gwyn ar addysg perthnasoedd iach ac annog ysgolion i ddefnyddio dull ysgol gyfan o weithredu:
Rydym hefyd yn croesawu sylwadau sy’n datgan y gellir efallai ddiwygio’r ddeddfwriaeth i gynnwys darpariaethau yn ystod y gwaith craffu ar y Bil.
Galwn ar Lywodraeth Cymru – yn ystod taith y Bil hwn – i ddangos yn glir sut y bydd yn cyflwyno'r cynigion yn y Papur Gwyn ar ddarparu 'addysg ar berthnasoedd iach' cynhwysfawr a gorfodol i blant a phobl ifanc oed ysgol yng Nghymru.
Tystiolaeth i gefnogi ein safbwynt
1. Canfu ymchwil a gynhaliwyd ar ran Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Gydraddoldeb, Rhywioli a Rhywioleb Plant ac a ariannwyd gan NSPPC Cymru, Prifysgol Caerdydd a Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru fod y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn dweud eu bod yn ei chael yn anodd byw gyda stereoteipiau rhyw a 'rhywiaeth bob dydd', ac yn profi aflonyddu geiriol ac ar sail rhywedd.
Mae'r astudiaeth yn argymell dull seiliedig ar hawliau ar gyfer Addysg Rhyw a Pherthnasoedd: wrth ddatblygu deunydd Addysg Rhyw a Chydberthynas ar gyfer plant, dylid anelu at hyrwyddo dealltwriaeth o hawl bob plentyn i fod yn ddiogel (Erthygl 19, CCUHP) a hyrwyddo newid mewn diwylliant sy'n herio arferion, rhagfarn a stereoteipiau rhyw yn unol â dull gweithredu ar sail hawliau dynol.
2. Roedd adroddiad gan Barnardo’s ar ymchwiliad Seneddol i effeithiolrwydd deddfwriaeth ar gyfer mynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar blant a masnachu plant yn y DU yn dwyn sylw at yr angen am addysg rhyw a chyd-berthynas priodol i oedran ac o ansawdd uchel i wella’r gwaith o atal camfanteisio’n rhywiol ar blant.[i]
3. Roedd adolygiad o waith ataliol mewn ysgolion a lleoliadau addysg eraill yng Nghymru i fynd i’r afael â cham-drin domestig, a gynhaliwyd gan NFER ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2011[ii], yn argymell ystyried gwneud addysg cam-drin domestig yn rhan orfodol o'r cwricwlwm ysgol.
4. Roedd adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen[iii] yn cyfeirio at dystiolaeth ymchwil a oedd yn sefydlu cysylltiad rhwng plant sydd wedi bod yn dyst i drais domestig a phroblemau emosiynol ac ymddygiad, perthynas wael â chyfoedion, cyrhaeddiad academaidd gwael ac ymddwyn mewn ffordd sy'n peryglu’u iechyd. Roedd hefyd yn cyfeirio at arolwg llenyddiaeth[iv] a ganfu fod plant a phobl ifanc sy’n byw gyda thrais domestig yn fwy tebygol o brofi cam-drin emosiynol, corfforol a rhywiol, o ddatblygu problemau emosiynol ac ymddygiad ac yn fwy agored i brofi anawsterau eraill yn eu bywydau. Roedd yn argymell addysg orfodol am rywedd, cydraddoldeb, perthnasoedd iach, diogelwch a pharch.
Mae'r gynghrair hon yn cefnogi galwad Ymgyrch Sdim Curo Plant am ddiogelwch cyfartal i blant a chael gwared â’r amddiffyniad o gosb resymol yng nghyswllt plant.
[1] Adolygiad o waith ataliol mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill yng Nghymru i fynd i’r afael â thrais teuluol. Crynodeb Ymchwil 02/2011. Llywodraeth Cymru
[2] Prevention and Education: A whole School Approach. Grwp Gweithredu Trais Yn Erbyn Menywod
[i] Adroddiad yr Ymchwiliad Seneddol i effeithiolrwydd deddfwriaeth ar gyfer mynd i'r afael â chamfanteisio'n rhywiol ar blant a masnachu plant yn y DU a gadeiriwyd gan Sarah Champion. Barnardo’s Ebrill 2014. Ar gael yn: http://socialwelfare.bl.uk/subject-areas/services-client-groups/children-young-people/barnardos/161487cse_parliamentary_inquiry_report.pdf
[ii] NFER, A Review of Preventative Work in Schools and other Educational Settings in Wales to
Address Domestic Abuse (Llywodraeth Cymru, Caerdydd, 2011). Ar gael yn: http://wales.gov.uk/docs/caecd/research/110315executivesummaryschoolbasedworktoaddressdomesticabuseen.pdf
[iii]Robinson et al (2012).Argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Llywodraeth Cymru. Ar gael yn: http://www.cardiff.ac.uk/socsi/resources/Robinson%20et%20al%20(2012)%20Task%20and%20Finish%20Group%20Report.pdf
[iv] Holt, S., Buckley, H. a Whelan, S. (2008) The impact of exposure to domestic violence on childrenand young people: a review of the literature, Child Abuse and Neglect 32, tudalennau 797–819.